Prinder Ynni Cenedlaethol
Oherwydd prinder ynni cenedlaethol, efallai y byddwch yn cael toriad pŵer am tua thair awr ar y tro. Defnyddiwch ein hofferyn cod post i ddarganfod pryd y byddwch heb bŵer.
Pam fod hyn yn digwydd?
Nid oes digon o bŵer yn cael ei gynhyrchu i fodloni'r galw gan gartrefi a busnesau ledled y wlad. National Energy System Operator yw'r cwmni sy'n gyfrifol am weithredu'r system drydan. Mae'r cwmni wedi rhoi rota toriadau pŵer ar waith er mwyn eich helpu i gynllunio ymlaen llaw.
Mae'n bosibl y gallech fod heb bŵer am tua thair awr ar y tro. Drwy ddefnyddio rota toriadau pŵer, bydd gan bawb bŵer am y rhan fwyaf o'r diwrnod.
Bydd rheoli'r prinder ynni cenedlaethol fel hyn yn atal toriad pŵer mwy drwy gynnal sicrwydd y grid pŵer.
Pryd fydda i'n cael toriad trydan?
Teipiwch eich cod post yn y blwch a chliciwch neu dapiwch 'Find'.
Ddim yn siŵr beth yw eich cod post? Defnyddiwch y chwiliwr cod post hwn gan y Royal Mail.